Beth yn union yw ffuglen wyddonol, a sut mae genre o’r fath yn ein helpu i archwilio’r problemau byd-eang sy’n ein hwynebu o ddydd i ddydd? A all genre sy’n cael ei weld fel genre sy’n drwm dan ddylanwad diwylliant ‘Eingl-Americanaidd’, ac sy’n portreadu heb eu tebyg, fod yn berthnasol i ddiwylliannau lleiafrifol heddiw? Yn y bennod hon, mae Dr Miriam Elin Jones, mewn sgwrs ag Elin Rhys, yn trafod o ble ddaeth ei diddordeb mewn ffuglen wyddonol, a chyflwyno sut y gall y genre archwilio nifer o bryderon perthnasol i ddiwylliant lleiafrifol fel y diwylliant Cymraeg, drwy bortreadu tranc iaith a pherthynas iaith a thechnoleg.